AlanOWEN(Al Tŷ Moel)
Dymuna Mags, Helen a theulu'r diweddar Alan Owen, Moelfre, ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Gwerthfawrogwyd yr holl gardiau, galwadau ffôn, negeseuon ac ymweliadau. Diolch i'r Parchedig Jenny Clarke am ei gwasanaeth ddydd yr angladd ac i Eglwys St. Gallgo a'r warden. Diolch i'r rhai gymerodd ran yn y gwasanaeth - yr organyddes Ceinwen Price, i'r Cynghorydd Ieuan Williams am gyflwyno'r deyrnged, i Chloe Massey am ddarllen ac i'r cludwyr, sef rhai o ffrindiau Alan. Diolch i Dr Harri Pritchard am ei ofal ac i Martin Jones, Vince Jones a gweddill Criw Bad Achub yr RNLI a Gwylwyr y Glannau, Moelfre am eu gwasanaeth a dyletswydd ddydd yr angladd ac i gyd-weithwyr a ffrindiau Alan o Orsafoedd eraill yr RNLI a Gwylwyr y Glannau am eu presenoldeb. Diolch i Gwyn a Catherine Jones, Parciau ac i Meirion a Blodwen Thomas, Pen Tyddyn am gael parcio ar eu tir ac i Annette, Riverside Flowers am y blodau hyfryd. Diolch am y rhoddion hael o £1,500 a dderbyniwyd tuag at RNLI Moelfre, elusen a oedd yn golygu llawer iawn i Alan. Diolchwn hefyd i Arwyn a Fiona Hughes a phawb o Arwyn Hughes Ymgymerwr, Marian-Glas am eu gofal, arweiniad a threfniadau urddasol a pharchus.
*******
Mags, Helen and the family of the late Alan Owen, Moelfre, would like to express their sincere thanks for the support and sympathy extended to them in their bereavement. All the cards, phone calls, messages and visits were very much appreciated. Thank you to Reverend Jenny Clarke for her service on the day of the funeral and to St. Gallgo's Church and the warden. Thank you to everyone who participated in the service - the organist Ceinwen Price, Councillor Ieuan Williams for his tribute, Chloe Massey for reading and to the bearers, who were good friends of Alan. Thanks to Dr Harri Pritchard for his care and to Martin Jones, Vince Jones and all the crew at the RNLI Lifeboat Station and HM Coastguard at Moelfre for their service and duty on the day of the funeral as well as Alan's colleagues and friends from other RNLI and HM Coastguard Stations. Thanks to Gwyn & Catherine Jones, Parciau and Meirion & Blodwen Thomas, Pen Tyddyn for allowing cars to park on their land and to Annette of Riverside Flowers for the lovely floral tributes. Thank you for the generous donations of £1,500 received towards Moelfre RNLI - a charity that was very dear to Alan. Thank you also to Arwyn and Fiona Hughes and everyone at Arwyn Hughes Funeral Director, Marian-Glas for their care, guidance and dignified and respectful arrangements.
Keep me informed of updates